Rhif y ddeiseb: P-06-1204

Teitl y ddeiseb: Amddiffynnwch bobl Cymru - Cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr

Geiriad y ddeiseb: Mae prisiau tai’n gorfodi pobl leol o'u cymunedau eu hunain. Mae hyn yn dinistrio ein diwylliant a'n hiaith. Nid yw adeiladu mwy o dai’n ddigon.

 

Rydym yn galw am ailfeddwl polisi sylfaenol i flaenoriaethu anghenion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pobl Cymru yn unol â’r cynllun gweithredu Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Rhowch lais i bobl ar ddatrys ein hargyfwng tai: gweithredu wyth gofyniad y Siarter Cyfiawnder Cartrefi a sefydlu Cynulliad Dinasyddion i sbarduno newid.

 

Rhagor o fanylion

Mae Covid-19 wedi dangos yr angen am gamau gweithredu pendant gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng mawr. Mae angen gweithredu ar frys nawr i fynd i’r afael â’n hargyfwng tai, cyn i ddiwylliannau lleol a’r Gymraeg gael eu colli a chyn i farchnad dai ddireolaeth ddinistrio cymunedau trefol a gwledig Cymru.

 

Mae'r grŵp Siarter Cyfiawnder Cartrefi yn gydweithrediad gwleidyddol di-blaid ar draws Cymru. Gwnaethom ymchwilio i'r holl faterion a’r atebion a gynigiwyd gan eraill a'u crynhoi mewn wyth maes cyflawnadwy a chadarnhaol ar gyfer gweithredu.

 

Gweithredu gofynion y Siarter; defnyddio Cynulliad Dinasyddion i sbarduno'r newid:

 

1. Datgan argyfwng tai yng Nghymru

2. Creu bil i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb tai.

3. Amddiffyn ein cymunedau; rhai gwledig a threfol.

4. Amddiffyn y Gymraeg a diwylliant Cymru.

5. Diwygio darpariaeth tai cymdeithasol.

6. Mynd i'r afael â’r mater dybryd perchnogaeth ail gartrefi ar frys.

7. Diwygio cyfreithiau cynllunio i ymateb i anghenion tai lleol.

8. Creu Cynulliad Dinasyddion ar dai.

 

I gael mwy o wybodaeth am bob gofyniad, ewch i siartercartrefi.org

 


1.        Cefndir

Mae'r ddeiseb hon yn codi amrywiaeth eang o faterion sy'n ymwneud â thai, cymunedau a'r Gymraeg.

Mae nifer o randdeiliaid wedi lleisio pryderon tebyg i'r deisebwyr, yn enwedig yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd yn 2021.

Mae'r deisebwyr yn cyfeirio at fil i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb tai. Mae ymgyrch dros hawl i dai digonol yn cael ei arwain gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru. Mae'r ymgyrch honno'n galw am ymgorffori'r hawl i dai digonol (fel yr amlinellir yn y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol) i gyfraith Cymru.

Fel rhan o'r rhaglen waith bum mlynedd nesaf ar gyfer Cymraeg 2050, y strategaeth genedlaethol i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn "Creu Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg a defnyddio ysgogiadau economaidd i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith."

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu at y Cadeirydd ynghylch y ddeiseb hon ac wedi amlinellu rhai o'r camau y mae'r llywodraeth yn eu cymryd.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

2.1.          Ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu

Cafodd y Rhaglen Lywodraethu ei diweddaru ar 7 Rhagfyr i ymgorffori'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae’n gwneud nifer o ymrwymiadau sy'n berthnasol i'r ddeiseb hon, gan gynnwys:

§    Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd i’w rhentu.

§    Sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol, i gefnogi cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.

§    Diwygio cyfraith tai a gweithredu argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu’n gyflym.

§    Cyhoeddi Papur Gwyn i gyflwyno cynigion ar gyfer yr hawl i gartrefi digonol, gan gynnwys rhenti teg a ffyrdd newydd o sicrhau bod cartrefi’n rhai y gall pobl ar incwm lleol eu fforddio.

§    Bwrw ymlaen â chamau i osod terfyn ar nifer yr ail gartrefi, dod â rhagor o gartrefi o dan berchnogaeth gyffredin a thrwyddedu llety gwyliau.

§    Cefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned, ac ymddiriedolaethau tir cymunedol.

§    Datgarboneiddio rhagor o gartrefi drwy ôl-osod, gan ddarparu swyddi o safon, hyfforddiant ac arloesedd a defnyddio cadwyni cyflenwi lleol.

§    Diwygio’r system diogelwch adeiladau bresennol, gan gynnwys ail gam Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

§    Ymchwilio i ddichonolrwydd cyflwyno morgeisi awdurdodau lleol.

§    Defnyddio’r Ddeddf Rhentu Cartrefi i roi mwy o sicrwydd i rentwyr a datblygu cynllun cenedlaethol sy’n cyfyngu rhent i lefelau lwfans tai lleol i deuluoedd a phobl ifanc sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

§    Creu Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.

2.2.        Ail gartrefi

Mae effaith ail gartrefi ar gymunedau, a chartrefi gwyliau yn fwy cyffredinol (gan gynnwys lletyau hunanarlwyo) wedi bod yn destun llawer o drafod yn y Senedd yn ystod y misoedd diwethaf.

Fe gyhoeddwyd Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru, gan Dr Simon Brooks o Brifysgol Abertawe, ym mis Mawrth 2021. Gwnaeth yr adroddiad 12 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Roedd yr argymhellion yn cynnwys rheoli niferoedd ail gartrefi, gwneud defnydd llawn o'r pwerau i godi premiwm treth gyngor ar ail gartrefi a newidiadau i'r system gynllunio.

Ysgrifennodd y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg at Dr Brooks ar 6 Gorffennaf 2021 yn ymateb i'w adroddiad, gan amlinellu a sut roedd ei argymhellion wedi llywio dull arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â’r mater.

At hynny, ar 6 Gorffennaf 2021, gwnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd ddatganiad i'r Senedd ar fforddiadwyedd, ail gartrefi a'r Gymraeg. Ymrwymodd y datganiad i “ddatblygu mesurau treth, cynllunio a thai effeithiol i sicrhau bod buddiannau pobl leol yn cael eu diogelu”.

Gwnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd ddatganiad ar ail gartrefi a fforddiadwyedd ar 23 Tachwedd 2021. Cadarnhaodd y datganiad:

§    Gan ddechrau ym mis Ionawr, bydd cynllun peilot fesul cam yn cael ei redeg yn Nwyfor, Gwynedd i brofi nifer o ymyriadau. Bydd Cam 1 yn cynnwys ystod o gymorth ymarferol i helpu pobl i gael mynediad at dai fforddiadwy; Bydd Cam 2 yn edrych ar y system gynllunio;

§    Bydd ymgynghoriad yn gofyn am farn ynghylch a ddylai awdurdodau cynllunio lleol allu gofyn am ganiatâd cynllunio pan fydd prif gartref yn newid i ail gartref neu gartref gwyliau tymor byr;

§    Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chontractwr ar ddichonoldeb a siâp cynllun trwyddedu neu gofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau; cynigir y bydd cynllun gwirfoddol yn cael ei sefydlu yn yr ardal beilot i lywio cynllun statudol;

§    Bydd cyllid ar gael i nifer o awdurdodau lleol fel y gellir prynu eiddo gwag ar gyfer tai rhent cymdeithasol.

Yn dilyn datganiad y Gweinidog Newid Hinsawdd, gwnaeth Gweinidog y Gymraeg Addysg ddatganiad ar y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg. Roedd y datganiad yn amlinellu ystod o fesurau yr ymgynghorir arnynt, gan gynnwys:

§    cefnogaeth i fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol cymunedol, a busnesau cymdeithasol yn y sector twristiaeth a fydd yn eiddo i'r gymuned;

§    sefydlu Grŵp Llywio Gwerthwyr Tai er mwyn ystyried prosiectau ac ymchwil posibl;

§    sefydlu cynllun “cyfle teg” gwirfoddol, a fydd yn golygu bod tai sydd ar y farchnad ar gael i bobl leol yn unig am amser cyfyngedig; a

§    sefydlu Comisiwn ar gymunedau Cymraeg i ddeall yn well yr heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg eu hiaith.

2.3.        Y cyflenwad tai

Cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ddatganiad ysgrifenedig ar dai cymdeithasol ar 15 Mehefin 2021. Nododd y Gweinidog bod y targed o 20,000 yn y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer cartrefi cymdeithasol fforddiadwy i'w rhentu. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog hefyd "credaf mewn cymunedau gwirioneddol gynaliadwy ac er mwyn cyflawni hyn rhaid i ni sicrhau cymunedau deiliadaeth gymysg."

Mae ystadegau cyflenwad tai  Llywodraeth Cymru yn rhoi ystod o amcangyfrifon ar gyfer nifer y cartrefi fforddiadwy a thai marchnad ychwanegol sydd eu hangen bob blwyddyn yng Nghymru.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Ym mis Mawrth 2021, trafododd y Senedd ddeiseb a oedd â’r nod o  roi pwerau i awdurdodau lleol reoli’r farchnad dai yn ardaloedd gwledig ac arfordirol Cymru.

Ar 16 Mehefin 2021, trafododd y Senedd newydd etholedig gynnig yn enw Sian Gwenllian a oedd yn galw "...ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i fynd i’r afael â’r argyfwng tai." Derbyniwyd y cynnig gan y Senedd heb welliannau.

Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd wrthi’n cynnal ymchwiliad i ail gartrefi ac mae wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.